Dydd Mercher, Awst 11, 2010
Dechrau ychydig yn hwyr (10.35),
ond bore rhyfeddol o dda, gyda thwristiaid yn cyfrannu yr un mor hael a’r Cymry
lleol.
Un golygfa cofiadwy, sef bachgen bach
o Loegr ar ei gwyliau yn dal un o Waffls Tregroes yn agos at
ei drwyn, er mwyn gwerthfawrogi arogl y taffi. Croeso i Gymru, gwd boi!!
Yn y prynhawn, perfformiad
anghyffredin mewn beudy, ar fferm deuluol yn Nihewyd, ar gyfer criw o deuluoedd
sydd yn rhan o’r mudiad addysg cartref.
Fy nhâl yn dod mewn dwy rhan, sef siec yn ogystal â whip-round. Cyfrannu’r whip-round
tuag at gronfa llifogydd Pacistan.